Safle Cartref Straeon Llwyddiant
Straeon Llwyddiant
Partneriaeth Gofalwyr Strydoedd Caerdydd PDF Print E-mail
Blurry PeopleDros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae niferoedd mawr o Gristnogion sy'n cymryd rhan mewn gofalu am bobl ddigartref a bregus ar strydoedd canol dinas Caerdydd wedi derbyn cais i ffurfio partneriaeth â Chyngor Caerdydd, gyda'r nod o integreiddio a datblygu'r gwasanaeth ar gyfer pobl mewn angen.

Mae cyfanswm y bobl sy'n cymryd rhan yn y math hwn o weinidogaeth yn dod dros 200 o bobl, o sawl eglwys a sefydliad Cristnogol. Mae corff pontio wedi cael ei ffurfio, o'r enw “Fforwm y Gofalwyr Stryd”, ac maen nhw wedi cytuno ar weledigaeth, cenhadaeth ac amcanion.

Hefyd maen nhw wedi penodi grŵp cynrychioli i gwrdd yn rheolaidd â swyddogion y Cyngor, er mwyn cynllunio'r datblygiadau (efallai hoffech chi ddarllen y 'blog' ardderchog sydd wedi cael ei greu gan un o'r grŵp http://cardiffstreetcarers.blogspot.com/). Y cam cyntaf oedd llunio noson gynefino ar gyfer pob Gofalwr Stryd, gan obeithio ei pheilota o fewn misoedd, gyda'r nod o'i chynnig yn rheolaidd fel y bydd pob Gofalwr Stryd yn gallu cael eu hyfforddi ar gyfer eu rôl ar y strydoedd.

Mae swyddogion y Cyngor hefyd yn ysgrifennu cais i Bwyllgor Gweithredol y Cyngor, gan argymell bod Fforwm y Gofalwyr Stryd yn mynd yn bartner cymeradwy i weithio yn y maes hwn.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o'r fenter hon, neu fod rhywbeth gyda chi i'w rannu, cysylltwch â Paul Hocking ar This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
 
Hope UK: Gan alluogi pobl ifanc i wneud dewisiadau di-gyffuriau PDF Print E-mail
www.hopeuk.org

Hope UK Educators providing alcohol awareness during the Pentecost Festival in central London
Addysgwyr Hope UK yn darparu ymwybyddiaeth am alcohol yn ystod Gŵyl y Pentecost yn Llundain Canolog

Mae aelod Gweini Hope UK yn bwriadu ehangu ei weithgareddau addysg ac atal cyffuriau fel bod ei Addysgwyr Cyffuriau yn cyrraedd 500,000 o blant a phobl ifanc y flwyddyn erbyn diwedd 2011. Eisoes mae 12 o Addysgwyr yng Nghymru a'r nod yw codi'r nifer hwn i 50 yn y cyfnod hwnnw fel bod pob cymuned Gymreig yn cael mynediad at addysg gyffuriau ac alcohol.

Fel elusen Gristnogol, mae sylfaen ffydd Hope UK yn ei alluogi i uniaethu â grwpiau Cristnogol ond mae ei arbenigedd mewn addysg  gyffuriau yn y gymuned yn golygu bod hanner ei waith yn digwydd y tu allan i rwydweithiau'r eglwys.

Diagram showing How Drug Educator Training works

Mae alcohol a thybaco'n cael eu cynnwys yn ei sesiynau Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant Cyffuriau. Mae'r cyflwyno'n digwydd gan bennaf trwy Addysgwyr
wedi'u hyfforddi ar gwrs sydd wedi'i achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r rhaglen hyfforddi 120 awr hon yn paratoi unigolion i gyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth am gyffuriau mewn ystod eang o sefyllfaoedd gan gynnwys grwpiau rhieni, eglwysi, grwpiau plant a phobl ifanc yn ogystal ag ysgolion. Mae hyfforddiant achrededig ar gael ar gyfer gweithwyr ieuenctid a bydd cwrs deuddydd ar gyfer Gweithwyr Teuluoedd yn cael ei achredu'n fuan. Un o'r prif egwyddorion yw addasu at anghenion y sefydliad sy'n gofyn am y gwasanaeth, boed yn wasanaeth ysgol 15 munud, gwasanaeth
eglwys neu waith ieuenctid ar wahân.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth:
Hope UK, 25(f) Copperfled Street, Llundain, SE1 0EN

Ffon: 020 7928 0848
Ffacs:
020 7401 3477
E-bost: This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
Gwefan:
www.hopeuk.org

Cysylltwch â nhw os bydd eich sefydliad chi eisiau ymweliad gan Addysgwr Cyffuriau Hope UK neu edrych i mewn i'r posibilrwydd o waith partneriaeth.

 
«StartPrev12345678910NextEnd»

Page 1 of 10
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325