Safle Cartref Straeon Llwyddiant Partneriaeth Gofalwyr Strydoedd Caerdydd
Partneriaeth Gofalwyr Strydoedd Caerdydd PDF Print E-mail
Blurry PeopleDros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae niferoedd mawr o Gristnogion sy'n cymryd rhan mewn gofalu am bobl ddigartref a bregus ar strydoedd canol dinas Caerdydd wedi derbyn cais i ffurfio partneriaeth â Chyngor Caerdydd, gyda'r nod o integreiddio a datblygu'r gwasanaeth ar gyfer pobl mewn angen.

Mae cyfanswm y bobl sy'n cymryd rhan yn y math hwn o weinidogaeth yn dod dros 200 o bobl, o sawl eglwys a sefydliad Cristnogol. Mae corff pontio wedi cael ei ffurfio, o'r enw “Fforwm y Gofalwyr Stryd”, ac maen nhw wedi cytuno ar weledigaeth, cenhadaeth ac amcanion.

Hefyd maen nhw wedi penodi grŵp cynrychioli i gwrdd yn rheolaidd â swyddogion y Cyngor, er mwyn cynllunio'r datblygiadau (efallai hoffech chi ddarllen y 'blog' ardderchog sydd wedi cael ei greu gan un o'r grŵp http://cardiffstreetcarers.blogspot.com/). Y cam cyntaf oedd llunio noson gynefino ar gyfer pob Gofalwr Stryd, gan obeithio ei pheilota o fewn misoedd, gyda'r nod o'i chynnig yn rheolaidd fel y bydd pob Gofalwr Stryd yn gallu cael eu hyfforddi ar gyfer eu rôl ar y strydoedd.

Mae swyddogion y Cyngor hefyd yn ysgrifennu cais i Bwyllgor Gweithredol y Cyngor, gan argymell bod Fforwm y Gofalwyr Stryd yn mynd yn bartner cymeradwy i weithio yn y maes hwn.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o'r fenter hon, neu fod rhywbeth gyda chi i'w rannu, cysylltwch â Paul Hocking ar This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325