TAI A DIGARTREFEDD YNG NGHYMRU
Yn y rhifyn hwn o Newyddion Gweini, cyflwynwn ni gipolwg o'r ystod o fentrau Cristnogol yng Nghymru sy'n darparu tai cymdeithasol neu'n diwallu anghenion pobl digartref. Dechreuwn ni gydag Aelwyd, Cymdeithas Tai Cristnogol yng Nghaerdydd.
Sefydliad Cristnogol sy'n darparu tai wedi'u rhentu ar gyfer pobl sydd angen tai, gan arbenigo mewn pobl hŷn (dros 55 oed) yw Aelwyd – gair, wrth gwrs, sy'n cynrychioli calon y cartref i rai.
Dechreuodd fel Cymdeithas Tai Mudiad Dynion y Bedyddwyr ym 1966, ar yr adeg honno gan ddarparu tai ar gyfer gweinidogion a chenhadon y Bedyddwyr wedi'u hymddeol ond dros y blynyddoedd mae wedi ehangu i ddarparu ar gyfer pobl hŷn yn gyffredinol. Yng Nghymru, cafodd y cynllun tai cyntaf ei godi yn Sblot, Caerdydd ym 1978.
Serch hynny, golygodd Deddf Tai 1988 nad oedd yn gallu datblygu rhagor o gynlluniau yng Nghymru gan nad oedd wedi'i chofrestru fel Cymdeithas Tai Gymreig ar wahân. Ar yr un pryd, roedd Cymdeithas Tai'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn profi'r un anawsterau, tra oedd trydydd corff - Eglwys Bresbyteraidd Cymru - hefyd wrthi'n dilyn y syniad o chwarae rôl mewn tai cymdeithasol.
Dechreuodd y tri grŵp gwrdd â'i gilydd a chynhaliwyd trafodaethau dros gyfnod o flwyddyn, gan derfynu mewn ffurfio Cymdeithas Tai Aelwyd, a gafodd ei chofrestru ym mis Mawrth 1991.
Ar hyn o bryd, mae pob un o stoc tai Aelwyd wedi'u lleoli yn Ne Cymru, a fflatiau ar gyfer pobl hŷn yw'r rhan helaethaf o'r unedau, gyda nifer bach o dai. Mae'r llety i gyd wedi'i ddylunio a'i godi i safon uchel ac mae'r rhenti wedi'u gosod ar lefelau fforddiadwy. Mae pob uned yn oedd yn gallu datblygu rhagor o gynlluniau ymolchi, ystafell fyw ac un neu ddwy ystafell wely. Mae gan lawer o'r fflatiau system gyfathrebu argyfwng.
Mae Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r eglwysi a chymunedau lleol wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd ar gyfer eu tenantiaid sy'n dod at tua 300 o bobl. Mae gwaith y Gymdeithas Tai yn cael ei reoli a'i oruchwylio gan Fwrdd Rheoli gwirfoddol, sy'n cymryd rhan weithgar mewn penderfyniadau strategol a pholisi, ac sy'n gyfrifol am fonitro perfformiad y Gymdeithas.
|