Gallwch gofrestru fel Aelod Gweini, Cyfaill Gweini neu drwy roi Rhodd trwy lwytho i lawr y ffurflen isod a’i llenwi. Bydd Aelodaeth lawn yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio holl wasanaethau Gweini. Bydd yn eich galluogi i gynrychioli Eglwys, Sefydliad neu eich hunan ar Gyngor eich Gweini Lleol a bod yr hawl gennych chi (yn amodol ar etholiad) sefyll am le ar Gyngor neu Fwrdd Cenedlaethol Gweini. Byddwch yn derbyn: - - Cynrychiolaeth uniongyrchol a llais i bob lefel o lywodraeth.
- Gwybodaeth reolaidd trwy e-bost a Newyddion Gweini am newidiadau deddfwriaethol a chyfleoedd cyllido yn y sector gwirfoddol a llawer mwy.
- Manylion am ddwy gynhadledd Gweini bob blwyddyn yng Ngogledd a De Cymru sy’n cynnig cyngor arbenigol a gweithdai allweddol ar eich cyfer chi.
- Modd i chi gael mynediad i faterion perthnasol ar ein tudalennau gwe Gweini Lleol wedi’u dylunio’n arbennig.
- Arweiniad arbenigol codi arian trwy apwyntiad.
- Annog straeon newyddion da sydd angen cael eu hail-greu mewn mannau eraill!
- Cysylltiadau da â phobl eraill sy’n gweithio yn y sector.
- Mynediad i adnoddau pwysig wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer anghenion y Sector Gwirfoddol Cristnogol yng Nghymru.
- Dolen i’ch gwefan i gael ei ychwanegu at ein hadran dolenni heb unrhyw gost.
Amgaewch siec am £25 yn daladwy i Gweini fel ffi gofrestru un tro. Mae hyn yn rhoi'r hawl i fi dderbyn copi am ddim o'r llyfr 'Taking Our Place'. Trwy fynd yn Gyfaill Gweini bydd yr hawl gennych ddewis rhai o wasanaethau Gweini. - Derbyn gwybodaeth trwy e-bost
- Gweddïo
- Mynychu cynadleddau neu ddigwyddiadau
Gwerthfawrogir Rhoddion i’n gwaith yn fawr iawn a gellir eu gwneud trwy argraffu’r ffurflen isod a’i hanfon i’n cyfeiriad ar waelod y ffurflen. Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth bellach arnoch chi, gallwch gysylltu â ni ar y rhif swyddfa ganlynol: 029 2023 2852 Neu, gallwch e-bostio ar
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
Ffurflen Aelodaeth, Cyfeillion a Rhoddion Sylwch fod yr un ffurflen yn cwmpasu’r tri opsiwn, yn syml argraffwch hi, llenwch y rhan berthnasol, llofnodwch hi a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Byddwn yn ateb ymhen 21 diwrnod. CLICIWCH YMA i gofrestru gan ddefnyddio ffurflen ar-lein. CLICWCH YMA i lwytho i lawr trwy ddefnyddio Adobe Acrobat Reader  CLICWCH UNRHYWLE AR Y FFURFLEN ISOD I'W Weld/Printio 
|