|
Mae Cyngor Gweini Lleol yn gweithredu o fewn pob Awdurdod Lleol ac mae’n bosibl y bydd mwy nag un Cyngor Gweini yn gweithredu o fewn mwy nag un Awdurdod Lleol. Mae Cyngor y Grŵp Gweini Lleol yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad. Bydd yn gweithredu’r Cynllun Cenedlaethol yn lleol trwy geisio sefydlu sawl Fforwm Lleol yn delio ag un neu sawl un o’r testunau isod. Mae’r Fforymau Lleol yn adrodd i Gyngor y Grŵp Gweini Lleol ac yn delio â Chynrychiolaeth a Rhwydweithio. Mae pob Cyngor Gweini Lleol yn sefydlu grwpiau fforwm rhwydweithio a chynrychioli o arbenigwyr gyda’r nod o drafod pob un o’r testunau canlynol yn y pendraw :- Yr Henoed, Pensiynau, Y Digartref, Ymgyrchoedd Cawl, Partneriaethau Diogelwch, Puteiniaid, Cyn Carcharorion, Adferiad wedi Cyffuriau, Tai, Diweithdra, Gwaith gyda Phlant, Ieuenctid Anfoddog, Gofal Cymdeithasol a Strategaeth Lles, Grantiau Lleol, Myfyrwyr, Celf, Clybiau Cinio, Undebau Credyd, Rhieni a Plant Bach, Iechyd, Cydraddoldeb, Hawliau Dynol, Y Ddeddf Elusennau, Gwaith Tramor gan gynnwys sefydliadau cymorth a datblygiad Cristnogol, Cymorth Tramor, Mewnfudo, Gollwng y Dyled, a llawer mwy. Tudalennau Gwe Grwpiau Gweini Lleol
|