Home Local Gweini Torfaen
Torfaen PDF Print E-mail


Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings for the County Borough of Torfaen

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (around 50% for Torfaen), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Torfaen.

Torfaen has over 50 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All faith communities identified in the survey are churches.

This represents roughly one church for no more than 1,700 people in Torfaen.

Every week, roughly 2.5% of the population of Torfaen is estimated to be present at a church service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each church over a year raises the figure to 7.5%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Torfaen is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Hospital visiting; Children's work (under 14 year olds); Marriage preparation; Support for older people; and Youth work (14 - 25 year olds); in which the number of churches involved is estimated to be 36, 28, 26, 20 and 20 respectively.

Around 85% of the churches in Torfaen are active in one or other area of community services, with an average number of around five areas of activity each.

Just under 600 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Torfaen. This represents around just under 1,300 hours a week, equivalent to over 30 full-time workers.

In addition, churches in Torfaen employ around 8 paid staff to work with the wider community, representing a further 170 hours a week, equivalent to four full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Torfaen around 30 rent out rooms to outside groups; and around 15 supply some accommodation free of charge.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided by churches to Torfaen can be estimated at £1.1M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 7 churches in Torfaen are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy.

E-mail This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (tua 50% i Dorfaen), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Torfaen.

Mae gan Dorfaen dros 50 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi yw’r holl gymunedau ffydd a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg. 

Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys i ddim mwy na 1,700 o bobl yn Nhorfaen.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 2.5% o boblogaeth Torfaen yn mynychu gwasanaeth eglwys.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob eglwys dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 7.5%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yn Nhorfaen yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Ymweld ag Ysbytai; Gwaith Plant (o dan 14 oed); Paratoi ar gyfer Priodas; Cefnogaeth i Bobl Hŷn; a Gwaith Ieuenctid (14 - 25 oed); mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 36, 28, 26, 20 a 20, yn eu tro.

Mae tua 85% o’r eglwysi yn Nhorfaen yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua phum maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod ychydig o dan 600 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yn Nhorfaen.  Mae hyn yn cynrychioli ychydig o dan 1,300 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thros 30 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi yn Nhorfaen yn cyflogi tua 8 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 170 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â phedwar gweithiwr llawn amser.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Yn Nhorfaen, mae tua 30 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 15 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eglwysi i Dorfaen yn cael ei amcangyfrif i fod tua £1.1M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 7 eglwys yn Nhorfaen yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol.

E-bost This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325