Home Local Gweini Rhondda Cynon Taf
Rhondda Cynon Taf PDF Print E-mail

 

Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings for Rhondda Cynon Taff

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (53% for Rhondda Cynon Taff), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Rhondda Cynon Taff.

Rhondda Cynon Taff has over 170 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All these are churches - the research did not pick up any large congregations of other faiths. This represents roughly one church or parish for around 1,300 people in Rhondda Cynon Taff.

Every week, roughly 4% of the population of Rhondda Cynon Taff is estimated to be present at a religious service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each church over a year raises the figure to 7.5%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Rhondda Cynon Taff is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Hospital visiting; Children's work (under 14 year olds); Social activities (lunch club, coffee bar, etc.); Parent-toddler group; and Marriage preparation, delivered by between 75 and 50 churches each.

In addition, many churches in Rhondda Cynon Taff are already working in areas of emerging need and opportunity; such as employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues, between 10 and 15 churches, in each case. In addition, between 15 and 20 others aspire to work in these areas in the future.

Two-thirds of the churches in Rhondda Cynon Taff are active in one or other area of community services, with an average number of around six areas of activity each.

Over 1,300 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Rhondda Cynon Taff. This represents around 2,500 hours a week, equivalent to around 60 full-time workers. In addition, faith communities in Rhondda Cynon Taff employ around 130 paid staff to work with the wider community, representing a further 2,100 hours a week, equivalent to over 50 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Rhondda Cynon Taff, around 20 are estimated to operate purpose-built community centres; around 90 rent out rooms to outside groups; and just under 50 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: for example around 15 churches in Rhondda Cynon Taff are thought to be engaged in Welsh language teaching.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided to local communities in Rhondda Cynon Taff can be estimated at £4.4M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, just under 30 churches in Rhondda Cynon Taff are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy or to have been involved in Government regeneration or community or economic development initiatives, or both.

E-mail:  This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer Rhondda Cynon Taf

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (53% i Rondda Cynon Taf), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

Mae gan Rondda Cynon Taf dros 170 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi yw’r rhain i gyd – ni ddarganfu’r ymchwil unrhyw gynulleidfaoedd mawr crefyddau eraill.  Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu blwyf ar gyfer tua 1,300 o bobl yn Rhondda Cynon Taf.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 4% o boblogaeth Rhondda Cynon Taf yn mynychu gwasanaeth crefyddol.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob eglwys dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 7.5%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yn Rhondda Cynon Taf yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Ymweld ag Ysbytai; Gwaith Plant (o dan 14 oed); Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Grwpiau Rhieni a phlant bach; a Pharatoi ar gyfer Priodas, wedi’u cyflwyno gan rhwng 75 a 50 o eglwysi yr un.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi yn Rhondda Cynon Taf yn gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, megis hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol, rhwng 10 a 15 o eglwysi, ym mhob achos.  At hynny, mae rhwng 15 a 20 arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae dau draean o’r eglwysi yn Rhondda Cynon Taf yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua chwe maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod dros 1,300 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yn Rhondda Cynon Taf.  Mae hyn yn cynrychioli tua 2,500 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 60 o weithwyr llawn amser.  At hynny, mae cymunedau ffydd yn Rhondda Cynon Taf yn cyflogi tua 130 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 2,100 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â thros 50 o weithwyr llawn amser.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Yn Rhondda Cynon Taf, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 20 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 90 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae ychydig o dan 50 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: er enghraifft mae’n cael ei gredu bod tua 15 o eglwysi yn Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan mewn dysgu’r iaith Gymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gymunedau lleol yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei amcangyfrif i fod tua £4.4M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod ychydig o dan 30 eglwys yn Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu wedi cymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth neu ddatblygiad cymunedol neu economaidd, neu’r ddau.

E-bost: This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325