Powys PDF Print E-mail


Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings for the County of Powys

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (just over 45% for Powys), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Powys.

Powys has over 360 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All identified in the survey were churches.

This represents roughly one church or parish for no more than 350 people in Powys.

Every week, roughly 8% of the population of Powys is estimated to be present at a religious service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to 26%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Powys is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Hospital visiting, Children's work (under 14 year olds), Support for bereaved, Marriage preparation, and Support for people with long-term illness; in which the number of churches involved is estimated to be 111, 97, 95, 86 and 81, respectively.

In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 5 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues and thirty hope to work in these areas in the future.

Well over half of the churches in Powys are active in one or other area of community services, with an average number of around five areas of activity each.

Over 2,700 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Powys. This represents around 5,000 hours a week, equivalent to around 125 full-time workers.

In addition, churches in Powys employ around 27 paid staff to work with the wider community, representing a further 470 hours a week, equivalent to another 12 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Powys, around 25 are estimated to operate purpose-built community centres; around 101 rent out rooms to outside groups; and around 60 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: around 10 churches in Powys are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided to local communities in Powys can be estimated at £5M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 30 churches in Powys are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy or have been involved in Government regeneration initiatives, or both.

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer sir Powys

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (ychydig dros 45% i sir Powys), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Powys.

Mae gan Bowys dros 360 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi oedd y cyfan a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg.
Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu blwyf i ddim mwy na 350 o bobl ym Mhowys.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 8% o boblogaeth Powys yn mynychu gwasanaeth crefyddol.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob eglwys dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 26%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu ym Mhowys yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Ymweld ag Ysbytai; Gwaith Plant (o dan 14 oed); Cefnogaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth; Paratoi ar gyfer Priodas; a Chefnogaeth ar gyfer pobl sydd gyda salwch tymor hir; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 111, 97, 95, 86 a 81, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi’n gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 5 eglwys eisoes yn gweithio mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae tri deg yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae ymhell dros hanner o’r eglwysi ym Mhowys yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua phum maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod dros 2,700 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi ym Mhowys.  Mae hyn yn cynrychioli tua 5,000 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 125 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi ym Mhowys yn cyflogi tua 27 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 470 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â 12 o weithwyr llawn amser ychwanegol.
Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Ym Mhowys, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 25 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 101 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 60 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 eglwys ym Mhowys yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gymunedau lleol ym Mhowys yn cael ei amcangyfrif i fod tua £5M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 30 o eglwysi ym Mhowys yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu wedi cymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth, neu’r ddau.

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325