|
 Faith in Wales: Counting for Communities: Summary of Findings for Neath Port Talbot Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism. The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (around 53% for Neath Port Talbot), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Neath Port Talbot. Neath Port Talbot has over 120 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). Apart from two mosques, all faith communities identified in the survey are churches. This represents roughly one church for no more than 1,100 people in Neath Port Talbot. Every week, roughly 5% of the population of Neath Port Talbot is estimated to be present at a church service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to 9%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year. The range of services churches provide in Neath Port Talbot is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Children's work (under 14 year olds); Hospital visiting; Social activities (lunch club, coffee bar, etc.); Youth work (14 - 25 year olds); and Marriage preparation; in which the number of churches involved is estimated to be 46, 43, 42, 36 and 33, respectively. In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 10 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues and another 20 hope to work in these areas in the future. Over 60% of the churches in Neath Port Talbot are active in one or other area of community services, with an average number of around four areas of activity each. Around 1,000 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Neath Port Talbot. This represents around 1,700 hours a week, equivalent to over 40 full-time workers. In addition, churches in Neath Port Talbot employ around 50 paid staff to work with the wider community, representing a further 700 hours a week, equivalent to around 18 full-time workers. Many churches provide accommodation for the wider community. In Neath Port Talbot, around 7 are estimated to operate purpose-built community centres; around 50 rent out rooms to outside groups; and around 30 supply some accommodation free of charge. Churches offer support for the Welsh language: around 12 churches in Neath Port Talbot are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers. Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided by churches to Neath Port Talbot can be estimated at £2.5M p.a. And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 8 churches in Neath Port Talbot are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy. E-mail
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau: Crynodeb Casgliadau ar gyfer Nedd Port TalbotHyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt. Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth. Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (tua 53% i Nedd Port Talbot), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol. Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Nedd Port Talbot. Mae gan Nedd Port Talbot dros 120 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru). Ar wahân i ddau fosg, eglwysi yw’r holl gymunedau ffydd a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg. Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys i ddim mwy na 1,100 o bobl yn Nedd Port Talbot. Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 5% o boblogaeth Nedd Port Talbot yn mynychu gwasanaeth eglwys. Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn. Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 9%. Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn. Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yn Nedd Port Talbot yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu. Y pump uchaf yw Gwaith Plant (o dan 14 oed); Ymweld ag Ysbytai; Gweithgareddau cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Gwaith Ieuenctid (14 - 25 oed); a Pharatoi ar gyfer Priodas; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 46, 43, 42, 36 a 33, yn eu tro. Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi yn gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 10 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae 20 arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Mae dros 60% o’r eglwysi yn Nedd Port Talbot yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua phedwar maes o weithgarwch yr un. Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 1,000 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yn Nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynrychioli tua 1,700 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thros 40 o weithwyr llawn amser. At hynny, mae eglwysi yn Nedd Port Talbot yn cyflogi tua 50 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 700 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â thua 18 o weithwyr llawn amser. Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach. Yn Nedd Port Talbot, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 7 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 50 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 30 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim. Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 12 eglwys yn Nedd Port Talbot yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eglwysi i Nedd Port Talbot yn cael ei amcangyfrif i fod tua £2.5M y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi. Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 8 eglwys yn Nedd Port Talbot yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol. E-bost
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
|