|

Faith in Wales: Counting for Communities: Summary of Findings for the County of Monmouthshire Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities,provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism. The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (around 30% for Monmouthshire), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Monmouthshire. Monmouthshire has over 120 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All faith communities identified in the survey are churches. This represents roughly one church for no more than 720 people in Monmouthshire. Every week, roughly 8% of the population of Monmouthshire is estimated to be present at a church service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to 18%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year. The range of services churches provide in Monmouthshire is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Children's work (under 14 year olds); Hospital visiting; Support for bereaved; Support for older people; and Youth work (14 - 25 year olds); in which the number of churches involved is estimated to be 62, 59, 55, 52 and 48, respectively. In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 5 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues and another 12 hope to work in these areas in the future. Around 80% of the churches in Monmouthshire are active in one or other area of community services, with an average number of around seven areas of activity each. Around 1,300 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Monmouthshire. This represents around 2,500 hours a week, equivalent to over 60 full-time workers. In addition, churches in Monmouthshire employ over 20 paid staff to work with the wider community, representing a further 280 hours a week, equivalent to 7 full-time workers. Many churches provide accommodation for the wider community. In Monmouthshire, around 30 are estimated to operate purpose-built community centres; around 55 rent out rooms to outside groups; and around 40 supply some accommodation free of charge. Churches offer support for the Welsh language: around 4 churches in Monmouthshire are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers. Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided by churches to Monmouthshire can be estimated at £2.8M per year. And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 10 churches in Monmouthshire are estimated to participate in Government regeneration strategies. E-mail
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau: Crynodeb Casgliadau ar gyfer Sir FynwyHyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt. Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth. Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (tua 30% i Sir Fynwy), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol. Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Sir Fynwy. Mae gan Sir Fynwy dros 120 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru). Eglwysi yw’r holl gymunedau ffydd a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg. Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys i ddim mwy na 720 o bobl yn Sir Fynwy. Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 8% o boblogaeth Sir Fynwy yn mynychu gwasanaeth eglwys. Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn. Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 18%. Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn. Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yn Sir Fynwy yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu. Y pump uchaf yw Gwaith Plant (o dan 14 oed); Ymweld ag Ysbytai; Cefnogaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth; Cefnogaeth i bobl hŷn; a Gwaith Ieuenctid (14 - 25 oed); mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 62, 59, 55, 52 a 48, yn eu tro. Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi yn gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 5 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae 12 arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Mae tua 80% o’r eglwysi yn Sir Fynwy yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua saith maes o weithgarwch yr un. Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 1,300 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yn Sir Fynwy. Mae hyn yn cynrychioli tua 2,500 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thros 60 o weithwyr llawn amser. At hynny, mae eglwysi yn Sir Fynwy yn cyflogi dros 20 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 280 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â 7 gweithiwr llawn amser. Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach. Yn Sir Fynwy, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 30 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 55 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 40 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim. Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 4 eglwys yn Sir Fynwy yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eglwysi i Sir Fynwy yn cael ei amcangyfrif i fod tua £2.8M y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi. Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 eglwys yn Sir Fynwy yn cymryd rhan yn Strategaethau adfywio’r Llywodraeth. E-bost
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
|