Home Local Gweini Merthyr Tydfil
Merthyr Tydfil PDF Print E-mail

 

Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings, County Borough of Merthyr Tydfil

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (just over 48% for Merthyr Tydfil), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights for Merthyr Tydfil.

Merthyr Tydfil has around 60 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All identified in the survey were churches.

This represents roughly one church or parish for no more than 950 people in Merthyr Tydfil.

Every week, roughly 5% of the population of Merthyr Tydfil is estimated to be present at a religious service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to over 12%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Merthyr Tydfil is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Hospital visiting; Social activities (lunch club, coffee bar, etc.); Children's work (under 14 year olds); Parent-toddler group and Support for bereaved; in which the number of churches involved is estimated to be 27, 23, 23, 19 and 17, respectively.

In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 10 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues and another ten hope to work in these areas in the future.

Around three-quarters of the churches in Merthyr Tydfil are active in one or other area of community services, with an average number of around six areas of activity each.

Over 600 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Merthyr Tydfil. This represents around 2,200 hours a week, equivalent to around 55 full-time workers.

In addition, churches in Merthyr Tydfil employ around 13 paid staff to work with the wider community, representing a further 300 hours a week, equivalent to another 8 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Merthyr Tydfil, around 10 are estimated to operate purpose-built community centres; around 45 rent out rooms to outside groups; and around 20 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: 10 churches in Merthyr Tydfil are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided to local communities in Merthyr Tydfil can be estimated at £2.0M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, 15 churches in Merthyr Tydfil are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy or to have been involved in Government regeneration or community or economic development initiatives, or both.

E-mail This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (ychydig dros 48% i Ferthyr Tudful), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth ar gyfer Merthyr Tudful.

Mae gan Ferthyr Tudful tua 60 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi oedd y cyfan a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg.  
Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu blwyf i ddim mwy na 950 o bobl ym Merthyr Tudful.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 5% o boblogaeth Merthyr Tudful yn mynychu gwasanaeth crefyddol.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 12%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu ym Merthyr Tudful yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Ymweld ag Ysbytai; Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Gwaith Plant (o dan 14 oed); Grwpiau Rhieni a phlant bach; a Chefnogaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 27, 23, 23, 19 a 17, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi yn gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 10 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae deg arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae tua thri chwarter o’r eglwysi ym Merthyr Tudful yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua chwe maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod dros 600 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi ym Merthyr Tudful.  Mae hyn yn cynrychioli tua 2,200 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 55 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi ym Merthyr Tudful yn cyflogi tua 13 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 300 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth ag 8 gweithiwr llawn amser.
Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Ym Merthyr Tudful, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 45 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 20 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 eglwys ym Merthyr Tudful yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gymunedau lleol ym Merthyr Tudful yn cael ei amcangyfrif i fod tua £2.0M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod 15 eglwys ym Merthyr Tudful yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu wedi cymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth neu fentrau datblygiad economaidd neu gymunedol, neu’r ddau.

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325