Home Local Gweini Flintshire
Sir y Fflint / Flintshire PDF Print E-mail

 

Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings for the County of Flintshire

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (48% for Flintshire), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Flintshire.

­Flintshire has over 115 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All identified in the survey are churches.

This represents roughly one church or parish for no more than 1,300 people in Flintshire.

Every week, roughly 4.4% of the population of Flintshire is estimated to be present at a religious service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each church over a year raises the figure to 11.5%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Flintshire is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are: Social activities (lunch club, coffee bar, etc.); Children's work (under 14 year olds); Hospital visiting; Marriage preparation and Parent-toddler groups; in which the number of churches involved are estimated to be 48, 39, 37, 31 and 28, respectively.

In addition, a number of churches are interested in working in areas of emerging need and opportunity; around 13 churches hope to work in the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues in the future.

Almost two-thirds of the churches in Flintshire are active in one or other area of community services, with an average number of around six areas of activity each.

Around eleven hundred volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Flintshire. This represents around 1,700 hours a week, equivalent to over 40 full-time workers.

In addition, churches in Flintshire employ around 35 paid staff to work with the wider community, representing a further 320 hours a week, equivalent to another 8 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Flintshire, around 24 are estimated to operate purpose-built community centres; around 60 rent out rooms to outside groups; and around 40 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: around 25 churches in Flintshire are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided to local communities in Flintshire can be estimated at £2.3M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 17 churches in Flintshire are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy or have been involved in Government regeneration initiatives, or both.

E-mail This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer sir y Fflint

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (48% i sir y Fflint), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer sir y Fflint.

Mae gan sir y Fflint dros 115 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi yw’r cyfan a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg.
Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu blwyf i ddim mwy na 1,300 o bobl yn sir y Fflint.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 4.4% o boblogaeth sir y Fflint yn mynychu gwasanaeth crefyddol.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob eglwys dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 11.5%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yn Sir y Fflint yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Gwaith Plant (o dan 14 oed); Ymweld ag Ysbytai; Paratoi ar gyfer Priodas; a Grwpiau Rhieni a Phlant bach; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 48, 39, 37, 31 a 28, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae diddordeb gan nifer o eglwysi i weithio mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 13 eglwys yn gobeithio gweithio mewn meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol yn y dyfodol.

Mae bron dau draean o’r eglwysi yn sir y Fflint yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua chwe maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua mil a chant o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yn sir y Fflint.  Mae hyn yn cynrychioli tua 1,700 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thros 40 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi yn sir y Fflint yn cyflogi tua 35 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 320 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â 8 o weithwyr llawn amser ychwanegol.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Yn sir y Fflint, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 24 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 60 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 40 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 25 eglwys yn sir y Fflint yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gymunedau lleol yn sir y Fflint yn cael ei amcangyfrif i fod tua £2.3M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 17 eglwys yn sir y Fflint yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu wedi cymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth, neu’r ddau.

E-bost This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325