Home Local Gweini Denbighshire
Sir Ddinbych / Denbighshire PDF Print E-mail

 

Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings for the County of Denbighshire

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (around 50% for Denbighshire), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Denbighshire.

Denbighshire has over 160 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). Apart from one mosque, all faith communities identified in the survey are churches.

This represents roughly one church for no more than 580 people in Denbighshire.

Every week, roughly 7% of the population of Denbighshire is estimated to be present at a church service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to 20%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Denbighshire is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Hospital visiting; Social activities (lunch club, coffee bar, etc.); Support for bereaved; Support for older people; and Children's work (under 14 year olds); in which the number of churches involved is estimated to be 82, 69, 69, 68 and 67, respectively.

In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 10 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues and another 15 hope to work in these areas in the future.

Around 80% of the churches in Denbighshire are active in one or other area of community services, with an average number of around six areas of activity each.

Around 2,000 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Denbighshire. This represents around 3,600 hours a week, equivalent to around 90 full-time workers.

In addition, churches in Denbighshire employ over 24 paid staff to work with the wider community, representing a further 500 hours a week, equivalent to around 12 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Denbighshire, around 22 are estimated to operate purpose-built community centres; around 74 rent out rooms to outside groups; and around 40 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: around 65 churches in Denbighshire are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided by faith communities to Denbighshire can be estimated at £3.4M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 10 churches in Denbighshire are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy.

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer Sir Ddinbych

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (tua 50% i Sir Ddinbych), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Sir Ddinbych.

Mae gan Sir Ddinbych dros 160 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Ar wahân i un mosg, eglwysi yw’r holl gymunedau ffydd a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg. 

Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys i ddim mwy na 580 o bobl yn Sir Ddinbych.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 7% o boblogaeth Sir Ddinbych yn mynychu gwasanaeth eglwys.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 20%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yn Sir Ddinbych yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Ymweld ag Ysbytai; Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Cefnogaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth; Cefnogaeth i bobl hŷn; a Gwaith Plant (o dan 14 oed); mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 82, 69, 69, 68 a 67, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi yn gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 10 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae 15 arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae tua 80% o’r eglwysi yn Sir Ddinbych yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua chwe maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 2,000 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yn Sir Ddinbych.  Mae hyn yn cynrychioli tua 3,600 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 90 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi yn Sir Ddinbych yn cyflogi dros 24 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 500 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â thua 12 o weithwyr llawn amser.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Yn Sir Ddinbych, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 22 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 74 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 40 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 65 o eglwysi yn Sir Ddinbych yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i Sir Ddinbych yn cael ei amcangyfrif i fod tua £3.4M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 eglwys yn Sir Ddinbych yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol.

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325