|
 Homepage / Tudalen Gartref | Representing / Yn Cynrychioli | Networking / Yn rhwydweithio | Informing / Yn hysbysu Faith in Wales: Counting for Communities: Summary of Findings for the County of Ceredigion Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism. The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (around 44% for Ceredigion), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Ceredigion. Ceredigion has over 240 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). Apart from one Mosque and one Bahá¡'â centre, all faith communities identified in the survey are churches. This represents one church or chapel for no more than 320 people in Ceredigion. Every week, roughly 12% of the population of Ceredigion is estimated to be present at a church service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to 28%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year. The range of services churches provide in Ceredigion is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Hospital visiting; Children's work (under 14 year olds); Marriage preparation; Support for older people and Support for people with long-term illness; in which the number of churches involved is estimated to be 71, 68, 59, 53 and 45, respectively. In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 5 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues and another 8 hope to work in these areas in the future. Over 50% of the churches in Ceredigion are active in one or other area of community services, with an average number of around five areas of activity each. Around 2,000 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Ceredigion. This represents around 3,000 hours a week, equivalent to around 80 full-time workers. In addition, churches in Ceredigion employ over 50 paid staff to work with the wider community, representing a further 480 hours a week, equivalent to another 12 full-time workers. Many churches provide accommodation for the wider community. In Ceredigion, around 43 are estimated to operate purpose-built community centres; around 103 rent out rooms to outside groups; and around 50 supply some accommodation free of charge. Churches offer support for the Welsh language: around 75 churches in Ceredigion are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers. Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided by churches to Ceredigion can be estimated at £2.9M per year. And, of course, this is only part of the impact of faith communities. For example, around 10 churches in Ceredigion are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy. E-mail
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau: Crynodeb Casgliadau ar gyfer Sir Ceredigion
Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt. Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth. Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (tua 44% i Geredigion), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol. Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Ceredigion. Mae gan Geredigion dros 240 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru). Ar wahân i un mosg ac un ganolfan Bahá’í, eglwysi yw’r holl gymunedau ffydd a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg. Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu gapel i ddim mwy na 320 o bobl yng Ngheredigion. Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 12% o boblogaeth Ceredigion yn mynychu gwasanaeth eglwys. Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn. Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 28%. Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn. Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yng Ngheredigion yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu. Y pump uchaf yw Ymweld ag Ysbytai; Gwaith Plant (o dan 14 oed); Paratoi ar gyfer Priodas; Cefnogaeth i bobl hŷn; a Chefnogaeth i bobl sydd gyda salwch tymor hir; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 71, 68, 59, 53 a 45, yn eu tro. Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi yn gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 5 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae 8 arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Mae dros 50% o’r eglwysi yng Ngheredigion yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua phum maes o weithgarwch yr un. Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 2,000 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yng Ngheredigion. Mae hyn yn cynrychioli tua 3,000 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 80 o weithwyr llawn amser. At hynny, mae eglwysi yng Ngheredigion yn cyflogi dros 50 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 480 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â 12 o weithwyr llawn amser ychwanegol. Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach. Yng Ngheredigion, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 43 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 103 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 50 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim. Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 75 o eglwysi yng Ngheredigion yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eglwysi i Geredigion yn cael ei amcangyfrif i fod tua £2.9M y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi. Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 eglwys yng Ngheredigion yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol. E-bost
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
|