Home Local Gweini Caerphilly
Caerffilli / Caerphilly PDF Print E-mail

Homepage / Tudalen Gartref | Representing / Yn Cynrychioli | Networking / Yn rhwydweithio | Informing / Yn hysbysu

 

 

Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings for Caerphilly county borough

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, the numbers of volunteers they mobilise, and the rooms and halls they make available.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (just over 47% for Caerphilly), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights of the information available for Caerphilly.

Caerphilly has over 125 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All identified in the survey are churches. This represents roughly one church or parish for no more than 1,350 people in Caerphilly.

Every week, roughly 3.5% of the population of Caerphilly is estimated to be present at a religious service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to 7.5%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Caerphilly is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Children's work (under 14 year olds), Social activities (lunch club, coffee bar, etc.), Hospital visiting, Parent-toddler groups and Leisure activities and hobbies; in which the number of churches involved is estimated to be 64, 48, 43, 33, and 29, respectively

In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 5 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues, and twenty hope to extend work into these areas in the future.

Almost three quarters of the churches in Caerphilly are active in one or other area of community services, with an average number of around five areas of activity each.

Around eleven hundred volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Caerphilly. This represents around 3,200 hours a week, equivalent to around 80 full-time workers.

In addition, churches in Caerphilly employ around 45 paid staff to work with the wider community, representing a further 880 hours a week, equivalent to another 22 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Caerphilly, around 10 are estimated to operate purpose-built community centres; around 50 rent out rooms to outside groups; and around 25 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: around 10 churches in Caerphilly are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided to local communities in Caerphilly can be estimated at £3.2M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, around 15 churches in Caerphilly are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy or have been involved in Government regeneration or community or economic development initiatives, or both.

E-mail This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer bwrdeistref sir Caerffili

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, a’r ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (ychydig dros 47% i Gaerffili), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Caerffili.

Mae gan Gaerffili dros 125 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi yw’r cyfan a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg.
Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu blwyf i ddim mwy na 1,350 o bobl yng Nghaerffili.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 3.5% o boblogaeth Caerffili yn mynychu gwasanaeth crefyddol.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 7.5%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yng Nghaerffili yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Gwaith Plant (o dan 14 oed), Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati), Ymweld ag Ysbytai, Grwpiau Rhieni a Phlant bach a Gweithgareddau hamdden a hobïau; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 64, 48, 43, 33, a 29, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi’n gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 5 eglwys eisoes yn gweithio mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae ugain yn gobeithio ymestyn eu gwaith i mewn i’r meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae bron tri chwarter o’r eglwysi yng Nghaerffili yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua phum maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua mil a chant o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yng Nghaerffili.  Mae hyn yn cynrychioli tua 3,200 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 80 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi yng Nghaerffili’n cyflogi tua 45 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 880 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â 22 o weithwyr llawn amser ychwanegol.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Yng Nghaerffili, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 50 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 25 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 10 eglwys yng Nghaerffili yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gymunedau lleol yng Nghaerffili yn cael ei amcangyfrif i fod tua £3.2M y flwyddyn.
Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 15 eglwys yng Nghaerffili yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu wedi cymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth neu fentrau datblygiad cymunedol neu economaidd, neu’r ddau.

E-bost This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325