Home Local Gweini Blaenau Gwent
Blaenau Gwent PDF Print E-mail

Homepage /Tudalen Gartref | Representing /Yn Cynrychioli | Networking / Yn rhwydweithio | Informing /Yn hysbysu

 

 

Faith in Wales: Counting for Communities:
Summary of Findings, County Borough of Blaenau Gwent

Until now, Wales has lacked statistical evidence about the role of faith communities in the wider communities of which they are a part. The Gweini report, Faith in Wales: Counting for Communities, provides new information on the services provided by faith communities to the wider community, including: the numbers of volunteers they mobilise, the numbers of staff they pay to work with the wider community, the rooms and halls they make available, and their impact on tourism.

The survey on which it is based achieved an exceptional response rate of just over 49%, (just over 48% for Blaenau Gwent), and this allows summaries to be made for each of the unitary authorities. Here are some of the highlights for the churches in Blaenau Gwent.

Blaenau Gwent has over 80 active faith communities (individual congregations, or parishes in the case of the Church in Wales). All identified in the survey were churches. This represents roughly one church or parish for no more than 800 people in Blaenau Gwent.

Every week, roughly 6% of the population of Blaenau Gwent is estimated to be present at a religious service. However, this figure understates the numbers who attend over the course of a year. Taking the single largest service in each faith community over a year raises the figure to almost 25%. A considerably higher proportion that this must attend one or more religious services over the course of a year.

The range of services churches provide in Blaenau Gwent is enormous, including many services governments are not well equipped to deliver. The top five are Marriage preparation; Social activities (lunch club, coffee bar, etc.); Children's work (under 14 year olds); Hospital visiting and Arts/music education/appreciation; in which the number of churches involved is estimated to be 45, 45, 45, 43 and 34, respectively.

In addition, a number of churches are already working in areas of emerging need and opportunity; around 15 churches are already working in at least one of the areas of employment training, alcohol and drug awareness, and personal finance issues, and ten hope to work in these areas in the future.

Almost 85% of the churches in Blaenau Gwent are active in one or other area of community services, with an average number of around six areas of activity each.

Over 1,200 volunteers are estimated to work on behalf of the wider community in activities organised by churches in Blaenau Gwent. This represents around 1,800 hours a week, equivalent to around 45 full-time workers.

In addition, churches in Blaenau Gwent employ around 70 paid staff to work with the wider community, representing a further 1,200 hours a week, equivalent to another 30 full-time workers.

Many churches provide accommodation for the wider community. In Blaenau Gwent, around 20 are estimated to operate purpose-built community centres; around 40 rent out rooms to outside groups; and around 35 supply some accommodation free of charge.

Churches offer support for the Welsh language: 3 churches in Blaenau Gwent are estimated to be involved in running classes in Welsh, or to be involved in activities for Welsh speakers.

Using standard techniques, the economic benefit impact of just part of the services provided to local communities in Blaenau Gwent can be estimated at£2.6M per year.

And, of course, this is only part of the impact of churches. For example, 7 churches in Blaenau Gwent are estimated to be strongly involved in their local Community Strategy or to have been involved in Government regeneration initiatives.

 

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau, Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (ychydig dros 48% i Flaenau Gwent), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o’r uchafbwyntiau ar gyfer yr eglwysi ym Mlaenau Gwent.

Mae gan Flaenau Gwent dros 80 o gymunedau ffydd gweithredol (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru).  Eglwysi oedd y cyfan a gafodd eu hadnabod yn yr arolwg.  Yn fras mae hyn yn cynrychioli un eglwys neu blwyf i ddim mwy na 800 o bobl ym Mlaenau Gwent.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 6% o boblogaeth Blaenau Gwent yn mynychu gwasanaeth crefyddol.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cymuned ffydd dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 25%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau crefyddol ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu ym Mlaenau Gwent yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Paratoi ar gyfer Priodas; Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Gwaith Plant (o dan 14 oed); Ymweld ag Ysbytai; ac Addysg/gwerthfawrogi cerddoriaeth/y celfyddydau; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 45, 45, 45, 43 a 34, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi’n gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 15 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae deg arall yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae bron 85% o’r eglwysi ym Mlaenau Gwent yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua chwe maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod dros 1,200 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi ym Mlaenau Gwent.  Mae hyn yn cynrychioli tua 1,800 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 45 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi ym Mlaenau Gwent yn cyflogi tua 70 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 1,200 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â 30 o weithwyr llawn amser ychwanegol.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Ym Mlaenau Gwent, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 20 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 40 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 35 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod 3 eglwys ym Mlaenau Gwent yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu’n cymryd rhan mewn rhedeg gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gymunedau lleol ym Mlaenau Gwent yn cael ei amcangyfrif i fod tua £2.6M y flwyddyn.
Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod 7 eglwys ym Mlaenau Gwent yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu gymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth.

 
Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae’r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325
Gweini: Evangelical Alliance Wales working with other Christian agencies in the nation.
Evangelical Alliance is a company limited by guarantee registered in England and Wales No 123448 Registered Charity No 212325