| Aelodaeth/Ymaelodi/Cefnogaeth
Yma
Gallwch gofrestru fel Aelod Gweini,
Cyfaill Gweini neu drwy roi Rhodd
trwy lwytho i lawr y ffurflen isod a’i llenwi.
Bydd Aelodaeth lawn yn rhoi’r hawl
i chi ddefnyddio holl wasanaethau Gweini. Bydd yn eich galluogi
i gynrychioli Eglwys, Sefydliad neu eich hunan ar Gyngor eich
Gweini Lleol a bod yr hawl gennych chi (yn amodol ar etholiad)
sefyll am le ar Gyngor neu Fwrdd Cenedlaethol Gweini.
Byddwch yn derbyn: -
Cynrychiolaeth uniongyrchol a llais i bob lefel o lywodraeth.
Gwybodaeth reolaidd trwy e-bost a Newyddion Gweini am newidiadau
deddfwriaethol a chyfleoedd cyllido yn y sector gwirfoddol
a llawer mwy.
Manylion am ddwy gynhadledd Gweini bob blwyddyn yng Ngogledd
a De Cymru sy’n cynnig cyngor arbenigol a gweithdai
allweddol ar eich cyfer chi.
Modd i chi gael mynediad i faterion perthnasol ar ein tudalennau
gwe Gweini Lleol wedi’u dylunio’n arbennig.
Arweiniad arbenigol codi arian trwy apwyntiad.
Annog straeon newyddion da sydd angen cael eu hail-greu mewn
mannau eraill!
Cysylltiadau da â phobl eraill sy’n gweithio yn
y sector.
Mynediad i adnoddau pwysig wedi’u dylunio’n arbennig
ar gyfer anghenion y Sector Gwirfoddol Cristnogol yng Nghymru.
Dolen i’ch gwefan i gael ei ychwanegu at ein hadran
dolenni heb unrhyw gost.
Trwy fynd yn Gyfaill Gweini
bydd yr hawl gennych ddewis rhai o wasanaethau Gweini.
Derbyn gwybodaeth trwy e-bost
Gweddïo
Mynychu cynadleddau neu ddigwyddiadau
Gwerthfawrogir Rhoddion i’n gwaith yn fawr iawn a gellir
eu gwneud trwy argraffu’r ffurflen isod a’i hanfon
i’n cyfeiriad ar waelod y ffurflen.
Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth bellach arnoch
chi, gallwch gysylltu â ni ar y rhif swyddfa ganlynol:
029 2023 2852 neu rif mobeil: 07723026123
Neu, gallwch e-bostio ar info@gweini.org.uk
Ffurflen Aelodaeth, Cyfeillion
a Rhoddion
Sylwch fod yr un ffurflen yn cwmpasu’r
tri opsiwn, yn syml argraffwch hi, llenwch y rhan berthnasol,
llofnodwch hi a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y
ffurflen. Byddwn yn ateb ymhen 21 diwrnod.
CLICWCH
YMA i lwytho i lawr trwy ddefnyddio Adobe
Acrobat Reader 
CLICWCH UNRHYWLE AR Y FFURFLEN ISOD
I'W Weld/Printio

|