| Amdanon
ni
Dolenni Cyflym (cliciwch i fynd i’r adran berthnasol):
Croeso, Rhagymadrodd a Hanes
Sefydlwyd Gweini
- Yn Gweini’r Sector Gwirfoddol Cristnogol ym mis Hydref
1999 gan Care for Wales, Eglwys Cornerstone Abertawe, Cynghrair
Efengylaidd Cymru a Tearfund.
Cynhelir Gweini o dan adain y Gynghrair Efengylaidd Rhif Elusen
212325 ac fe’i hadnabyddir fel Cyngor y Sector Gwirfoddol
Cristnogol yng Nghymru, gynt Cyngor Gwaith Cymunedol Cristnogol
yng Nghymru.
Dechreuodd Dan Boucher, Swyddog Cyswllt Cynulliad y Gynghrair
Efengylaidd ar y pryd, y syniad a gweithiodd yn ddiflino i
ddod â nifer o unigolion allweddol o Sefydliadau Cristnogol
eraill i greu cnewyllyn Gweini.
Mae’r sefydliad wedi tyfu i’w lefel bresennol
a nawr mae Gweini lleol wedi en sefydlu bron ar draws Cymru gyfan.
Gofynnwn i chi ystyried ymuno â ni i gyflawni ein Cenhadaeth
a’n Gweledigaeth; mae’r datganiadau ar gael ar
y wefan hon. Gweler ein hadran Aelodaeth a Chyfeillion am
ffurflen gais hawdd i’w chwblhau.
Julian
Richards
Llywydd Gweini
Taflen Wybodaeth
CLICWCH UNRHYWLE
AR Y FFURFLEN ISOD I'W Weld/Printio
(PDF)

Datganiad
Cenhadaeth Gweini
Gweini ... Yn Gweini’r Sector
Gwirfoddol Cristnogol:
Yn cynrychioli ...i bob lefel o lywodraeth
Yn rhwydweithio ...yn lleol ac yn genedlaethol
Yn hysbysu ...am gyllid ac arfer gorau
Nodau
Gweledigaeth Gweini
1.
Bydd CYNRYCHIOLAETH effeithiol yn arwain at gydnabyddiaeth gynyddol o Gweini fel llais gwybodus, credadwy sy’n wir cynrychioli pawb ac y gellir ymddiried ynddi gan bawb ynghlwm yn y sector ac hefyd fel llais deallus, credadwy a dibyncdwy yr Eglwys, holl lefelau o'r llywodraeth a phob ffydd.
Bydd cyfathrebiadau wedi’u rheoli’n genedlaethol
er mwyn sicrhau bod cyswllt rheolaidd a bod barn y Cyngor
Cenedlaethol, yn adweithiol ac yn rhagweithiol, yn cael ei
hadlewyrchu’n llawn i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol,
i bob plaid wleidyddol, adrannau Gwasanaeth Sifil Cenedlaethol
a chyrff Sector Cyhoeddus Cenedlaethol eraill sy’n gweithredu
yn y sector gwirfoddol ar draws Cymru, ar bob lefel.
Yn cynrychioli materion Sector Gwirfoddol Cristnogol Cymru
i San Steffan, Sefydliadau Ewropeaidd a’r Cenhedloedd
Unedig.
Bydd cyfathrebiadau wedi’u rheoli’n lleol er mwyn
sicrhau bod cyswllt rheolaidd a bod barn Cyngor y Gweini Lleol,
yn adweithiol ac yn rhagweithiol, yn cael ei hadlewyrchu’n
llawn i Gynghorwyr yr Awdurdodau Lleol, i bob plaid wleidyddol,
swyddogion llywodraeth leol perthnasol a chyrff Sector Cyhoeddus
lleol priodol, ar bob lefel.
I gael ei weld yn gyfrannwr adnabyddus, gyda chysylltiadau
da, sy’n cael ei werthfawrogi a’i barchu ac yn
gredadwy iawn gan y Sector Gwirfoddol seciwlar.
2. I gael ei gydnabod yn
brif fan cyswllt am RWYDWEITHIO darpariaeth
i’r Sector Gwirfoddol Cristnogol, i’r rheiny sy’n
gweithio gartref a thramor. Hefyd, mae’n rhaid ei fod
yn effeithiol fel canolbwynt allweddol ar gyfer datblygiad
rhwydweithio perthnasau a phartneriaethau effeithiol sy’n
tyfu ac sy’n cefnogi ei gilydd o fewn y sector.
3. I ddarparu GWYBODAETH
ardderchog, reolaidd a hawdd i’w chyrchu am faterion
polisi, codi arian, arfer gorau a datblygiadau cyfredol yn
y sector.
4. I geisio am y safon uchaf ymhob peth yr ydym yn ei wneud a cheisio gadael argraff gadarnhaol iawn gyda holl fuddiolwyr ein gwasanaethau.
5. Bydd rhaid i bob
Gweledigaeth, Strategaeth a Tharged ganiatáu am gynaladwyedd
ac ehangiad a’u hannog lle bo’n briodol.
Datganiad
Gwerthoedd
YSGOGIAD
Credwn: -
fod gan y model gorau ar gyfer cymdeithas
sefydlog, arddangosiadau ymarferol o gariad, gofal, tosturi
a gweithredoedd ufudd-dod, ac yn dilyn y gorchymyn mawr yn
Ioan 13 ad. 34. “Dw i’n rhoi gorchymyn newydd
i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union
fel dw i wedi'ch caru chi.” Rydym yn ymroddi i’r
fath wirionedd Beiblaidd.
y dylem geisio heddwch a ffyniant ein cenedl
yn unol â Jeremeia 29 ad. 7 & 8. “Ceisiwch
hefyd heddwch y ddinas yr hon y'ch caethgludais chi iddi,
a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch
hi y bydd heddwch i chwithau.”
bod ein ffydd Gristnogol a gweddïo’n
hanfodol ac yn cryfhau ein hysgogiad ymhob un o’n gweithredoedd.
y byddwn yn dod â dilysrwydd a gwerth
i’r Sector Gwirfoddol Cristnogol yn llygaid y genedl
gyfan, wrth i ni newid agwedd cymdeithas tuag at y pwysigrwydd
a roddir ar ffydd ac ar wirionedd Beiblaidd gan y Sector Gwirfoddol
Cristnogol.
POBL AC AMRYWIAETH
Credwn: -
fod pawb yn haeddu parch, heb ragfarn.
y bydd gwasanaethu ein cymunedau yn cael
ei gydnabod, ei gefnogi a’i werthfawrogi gan ymgorfforiad
ehangaf yr eglwys.
y dylid parchu rhyddid pobl o bob ffydd
neu ddim ffydd i rannu ond nid i orfodi eu golwg ar y byd.
y gallwn ymgynghori o fewn y Sector Gwirfoddol
Cristnogol a sicrhau ein bod yn cynrychioli eu barn yn fwy
na ddigon ac yn gywir.
y dylem annog a galluogi cyflogedigion a
gwirfoddolwyr i gyrraedd eu nodau, ymgymryd â datblygiad
a hyfforddiant personol, cyrraedd boddhad, dysgu sut i gyrraedd
rhagoriaeth, tyfu trwy ddysgu gan eu camgymeriadau a rhannu
eu syniadau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy adeiladu gweithle
sy’n hysbysu, annog, monitro perfformiad, darparu adborth,
hyfforddi a gwobrwyo rhagoriaeth a chyflawniad.
y dylem ac y byddwn yn mabwysiadu strwythur
rheoli, arwain a chyfundrefnol sy’n hwyluso ac yn croesawu
cyfraniad gan bob aelod o staff a gwirfoddolwyr wrth gyrraedd
nodau ein gweledigaeth, strategaethau a thargedau.
EGWYDDORION GWEITHREDU CYFFREDINOL
Credwn: -
y gallwn ac y bydd ffocws gennym –
gan roi blaenoriaeth i’r materion a fydd yn macsimeiddio
effaith ein hadnoddau sydd ar gael.
y gallwn ac y byddwn yn cyfathrebu ein gwaith
mewn fformat hawdd i’w chyrchu i’r sector gwirfoddol.
y dylem geisio safonau uchaf gonestrwydd,
atebolrwydd ariannol a stiwardiaeth i gyflawni rhagoriaeth.
y byddwn yn edrych ymlaen ac yn pwyso’n
gyson i wynebu materion a heriau yfory.
bod angen arnom gydnabod, gwerthfawrogi
a pharchu ein hadnoddau i gyd, gan gynnwys ariannol, a sicrhau
eu bod yn cael eu defnyddio, yn derbyn gofal a chael eu rheoli’n
gywir. Bydd ein cyfrifyddu mor agored a hygyrch â phosibl,
gan ddefnyddio gweithdrefnau cyfredol cymeradwy.
MECANWEITHIAU
Credwn: -
fod y pwys mwyaf i sicrhau bod amddiffyniad
i blant ac oedolion agored i niwed, a gweithdrefnau iechyd
a diogelwch yn cael eu gweithredu’n llawn.
ei fod yn ddoeth paratoi cynllun datblygu
blynyddol a byddwn yn monitro ac adolygu’r strategaeth
a thargedau hyn yn rheolaidd gan wneud unrhyw newidiadau sydd
eisiau ac sy’n ddymunol i gyflawni nodau’r weledigaeth.
fod angen cynnal strwythur cyfundrefnol
cenedlaethol sy’n galluogi lefel uchel o fewnbwn oddi
wrth y Cynghorwyr lleol a’r Cyngor Cenedlaethol.
Pobl Gweini
| Julian Richards
(Llywydd Gweini) |
 |
| Elfed Godding
(Cadeirydd) |
 |
| Dan Boucher
(Is-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli CARE) |
 |
| Jim Stewart
(Cyfarwyddwr Polisi) |
 |
| John Richards
(Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau) |
 |
| Rachel Davies
(Is-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli CARE)
|
 |
| John Evans
('Strategic Director for oversight' a Cyfarwyddwr Ymchwil) |
 |
| Annemarie Walton
(Is-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli Prospects) |
 |
| Hywel Meredydd
Davies
(Is-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli Tearfund)
|
 |
| Chris
Cartwright
(Is-Lywydd
Cenedlaethol Yn Cynrychioli City Temple Cardiff)
|
 |
Rob
Jones
(Is-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli
Bethlehem Church Life Centre Cefn Cribwr. Cyfarwyddwraig
Rhwydweithio) |
 |
Ralph Upton
(Cyfarwyddwr Gweini Lleol) |
 |
David Vincent
(Is-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli Tearfund) |
 |
Carl Brettle
(Cyfarwyddwr Gwybodaeth ac Aelod o'r Cyngor) |
 |
David Pike
(Ysgrifennydd Cofnodion) |
 |
Yr Athro Andrew Henley
(NIs-Lywydd Cenedlaethol Yn Cynrychioli, Eglwys St Michael's,
Aberystwyth) |
 |
| |
| Aelodau'r
Cyngor Cenedlaethol
Arbenigwyr
|
| George Karani |
Materion Ynghylch yr Amgylchfyd a Chydraddol Deb / Materion
Ynghylch Amrywiaeth |
| Mary Nicholas |
Cynghorydd y Gymraeg Gyda Chyfrifoldeb Arbennig Dros
GIG (Gobaith i Gymru) |
| Tim Lyttle |
Iechyd |
| Phillip Vickery |
Y Gymuned a'r Digartref |
| Kevin Tugwell |
Rhwydwaith Teidiau a Neiniau |
| |
Cynghrair Efengylaidd Cymru yn
gweithio ag asiantaethau Cristnogol eraill.
Rhif Elusen Gofrestredig:
212325
Mae teitl ein sefydliad, sef 'Gweini', yn adlewyrchu ein rheswm
am fodoli:
Cyd
Sefydliadau Sylfaenol
Cyngor Ymgynghorol
Yr Arglwydd Anderson o Abertawe
John Bushell
Stephen Crabb AS
Cynghorydd Mike Day
Y Gwir Anrhydeddus Iarll Powys
Janet Ryder AC
Arnallt Morgan (Eglwys Apostolaidd, Abertawe)
Chris Cartwright (City Temple, Caerdydd,
Eglwys Bentecostaidd Elim)
Gerald Williams (Cyn-Ohebydd Tenis)
John Vickery (Eglwys Calfari)
Karen Lowe (Eglwys Antioch, Llanelli - Eglwysi
Pioneer)
Lyndon Bowring (Care)
Mal Pope (Canwr)
Mike Sutton-Smith (Eglwys y Cyfamod Newydd
Abertawe, Ministry Without Borders)
Nick Bradshaw (Undeb y Bedyddwyr ym Mhrydain
Fawr)
Peter Baker (Highfields a FIEC)
Sam Wong (Yr Eglwys Tsieneiaidd)
Stuart Bell (Eglwys Sant Mihangel Aberystwyth,
Yr Eglwys yng Nghymru)
Hywel Meredydd Davies (Tearfund)
Sion
Meredith
Cyngor
Cenedlaethol Gweini
Rôl y Cyngor Cenedlaethol yw
delio â materion Cenedlaethol y mae Cynulliad Cymru,
San Steffan, Ewrop neu’r Cenhedloedd Unedig yn delio
â nhw fel arfer. Dymunwn gael ein gweld ar y rheng flaen
yn y Sector Gwirfoddol yn ogystal â chael ein hystyried
yn gyfrannwr gwerthfawr i gymdeithas. Ceir cylch gorchwyl
rhagweithiol yn ogystal â’r cyfrifoldebau mwy
adweithiol.
Ceir cydbwysedd o Gynghorwyr er mwyn
sicrhau, cyn belled â phosibl, fod amlygrwydd cyfartal
yn cael ei roi i’r tri Nod Cenhadaeth allweddol o Gynrychioli,
Rhwydweithio a Gwybodaeth.
Corff gwirioneddol cynrychiadol sydd yma i adlewyrchu barn
bob rhan o Gymru. Mae’r Cyngor yn cynnwys dau gynrychiolydd
o bob Cyngor Gweini Lleol. Ar ben hynny, ceir nifer o arbenigwyr
sy’n cael eu gwahodd i ymuno â’r Cyngor
er mwyn sicrhau ei fod yn gorff gwybodus iawn. Bydd nifer
o Sefydliadau Gwirfoddol Cristnogol allweddol sy’n darparu
cefnogaeth ychwanegol i Gweini yn cael eu gwahodd hefyd i
dderbyn lle blaengar ar y Cyngor.
Mae’r Cyngor yn darparu’r
cylch gorchwyl manwl y bydd Bwrdd Gweini yn ymgymryd ag ef
ar ffurf cynllun datblygu cynhwysfawr sy’n cael ei adolygu
bob blwyddyn. Mae’r ymrwymiad i’r Cyngor Cenedlaethol
â chymaint o ffocws â phosibl, gan ofyn am y nifer
lleiaf o gyfarfodydd sydd eisiau i ddarparu’r gorolwg
a’r arweiniad angenrheidiol i’r Bwrdd.
Bwrdd Cenedlaethol Gweini
Mae’r Bwrdd yn gweithredu’r
Cynllun Datblygu sydd wedi derbyn cymeradwyaeth y Cyngor Cenedlaethol.
Mae’n cynnwys Cynghorwyr Cenedlaethol wedi’u hethol,
arbenigwyr gwadd o’r Cyngor Cenedlaethol, Cyfarwyddwyr
sy’n derbyn tâl a gwirfoddol ac arbenigwyr cyfetholedig
eraill.
Mae’n ymgymryd â rheolaeth
feunyddiol Gweini. Mae'r Cyfarwyddwyr yn sicrhau bod yr ymdrechion
ynghylch Cynrychioli, Rhwydweithio a Gwybodaeth yn cael eu
cynnal. Mae gofynion ariannol, codi arian a chydymffurfio
Gweini yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd.
Cynghorau
Lleol Gweini
Mae Cyngor Gweini Lleol yn gweithredu
o fewn pob Awdurdod Lleol ac mae’n bosibl y bydd mwy
nag un Cyngor Gweini yn gweithredu o fewn mwy nag un Awdurdod
Lleol.
Mae Cyngor y Grwp Gweini Lleol yn
darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad. Mae'n gweithredu’r
Cynllun Cenedlaethol yn lleol trwy geisio sefydlu sawl Fforwm
Lleol yn delio ag un neu sawl un o’r testunau isod.
Mae’r Fforymau Lleol yn adrodd i Gyngor y Grwp Gweini
Lleol ac yn delio â Chynrychiolaeth a Rhwydweithio.
Fforymau Lleol Gweini
Mae
pob Cyngor Gweini Lleol yn sefydlu grwpiau fforwm rhwydweithio
a chynrychiadol o arbenigwyr gyda’r nod o drafod y meysydd
canlynol i gyd yn y pen draw :-
Grwpiau
Gwaith Sector Gwirfoddol
Cyfanswm:
16 grwp gyda thros 255 o feysydd gwaith!
CELF
Grwpiau
celf a chrefft
Prosiectau
celf a chrefft
Therapi
celf a chrefft
Clybiau
llyfrau
Drama
- gwaith ysgol
Drama
- ieuenctid
Grwpiau
drama
Clybiau
ffilmiau
Grwpiau
hobïau
Cerddoriaeth
- cartrefi hen bobl
Cerddoriaeth
- grwpiau corawl
Cerddoriaeth
- grwpiau offerynnol
Dysgu
cerddoriaeth
Adrodd
barddoniaeth
Grwpiau
theatr
Prosiectau
theatr
DIWYLLIANT
Sioe
amaethyddol
Ffair
Gymunedol
Eisteddfodau
Sioe
flodau
Hyrwyddo
etifeddiaeth Gristnogol Cymru
Dysgu
Saesneg i geiswyr lloches
Dysgu
Saesneg i weithwyr mudol
Dysgu
Cymraeg
Ffeiriau
pentrefi
CHWARAEON
Clybiau
athletau
Badminton
Pêl-fasged
Bowlio
Clybiau
cardiau
Clybiau
dartiau
Dosbarthiadau
ymarfer corff
Hyfforddiant
ffitrwydd
Gemau
pêl-droed
Iechyd
a lles
Crefft
ymladd
Clybiau
Pwl/Snwcer
Cerdded
Clybiau
rhwyfo
Gemau
rygbi
Clybiau
rhedeg
Ysgol
bêl-droed
Clybiau
chwaraeon
Timau
chwaraeon
Clybiau
tenis bwrdd
IECHYD
Cefnogaeth
profedigaeth
Cynghori
Teithiau
dydd
Cefnogaeth
perthynas dibynnol
Dial-a-ride
Hygyrchedd
i’r anabl
Grwpiau
anabledd
Addysg
bwyd
Clybiau
iechyd
Bwyta’n
iach
Byw’n
iach
Caplaniaid
ysbyty
Ymweld
ag ysbytai
Ciniawau
Iechyd
meddwl
Hyfforddiant
iaith arwyddion
Clybiau
colli pwysau
Cludiant
i ysbytai
CYFRYNGAU
Ymgyrchu
Hyfforddiant
cyfrifiadurol
Caffis
rhyngrwyd
Ysgrifennu
llythyrau
Cylchgronau
Papurau
newydd
Gwaith
hyrwyddo
Radio
Teledu
Gwaith
gwe
CYDRADDOLDEB
Datrys
gwrthdaro
Anabledd
Rhyw
Hawliau
dynol - eiriolaeth
Trafodaeth
ryng-grefyddol
Hil
Materion
iechyd WEDHS
Gweithio
gyda phobl hyn
Gwaith
ieuenctid - dysgu
ADDYSG
Eiriolaeth
Clybiau
ôl ysgol
Sgiliau
sylfaenol
Ysgolion
Cristnogol
Dinasyddiaeth
Hyfforddiant
atal cyffuriau
Hawliau
dynol
Caffis
rhyngrwyd
Hyfforddiant
/ switiau cyfryngau
Addysg
grefyddol – Dylunio deallus / creadigaeth
Cymorth
a datblygiad
Gwaith
ymchwil
Cyfnewid
myfyrwyr
Grwpiau
cefnogaeth i athrawon
ECONOMI
Sgiliau
sylfaenol
Partneriaethau
busnes
Dechrau
busnesau
Siambrau
Masnach
Undebau
credyd
Cyngor
am ddyled
Twristiaeth
ffydd
Codi
arian
Arloesi
Creu
swyddi
Cynlluniau
twristiaid
Undebau
Llafur
Materion
cludiant
Cynlluniau
i bobl ddi-waith
Gwirfoddoli
Caplaniaid
diwydiannol
AMGYLCHEDD
Lles
anifeiliaid
Newid
yn yr Hinsawdd
Rheolaeth
Cefn Gwald
Arbed
Ynni
Prosiectau
Amgylcheddol
Cyngor
ffermio
Gerddi
Casglu
sbwriel
Rheoli
planhigion
Ailgylchu
Rheoli
dwr
CYFIAWNDER
CYMDEITHASOL
Cyfeillio
Caplaniaeth
- carcharau
Hyfforddiant
dinasyddiaeth
Cynghori
Cynlluniau
arbennig cyflogaeth
Cyn-droseddwyr
Gwaith
gyda phobl ddigartref
Tai
Gwaith
cyngor cyfreithiol
Iechyd
meddwl
Gwarchod
y Gymdogaeth
Grwpiau
Rhwydweithio
Puteindra
Gwaith
cynrychioli
Partneriaethau
diogelwch
Dosbarthu
cawl
Gweinidogion
stryd
Cam-drin
sylweddau
Delio
Cymorth
i Ddioddefwyr
Ymweld
- carcharau
PLANT
Bwlio
Gofal
plant
Materion
amddiffyn plant
Cartrefi
plant
Hyfforddiant
disgyblaeth
Rhyngrwyd
- defnydd diogel
Meithrinfeydd
Cynlluniau
rhieni
Rhieni
a phlant bach
Iselder
ar ôl geni
Clybiau
ysgol
Cefnogaeth
i rieni sengl
GWAITH
IEUENCTID
Ymwybyddiaeth
am AIDS
Addysg
Alcohol
Atal
trosedd
Gwaith
datgysylltiedig
Atal
cyffuriau
Adfer
wedi cyffuriau
Hyfforddiant
arweinyddiaeth
Gwaith
hunan hyder
Addysg
rhyw
Clybiau
chwaraeon
Grwpiau
myfyrwyr
Cam-drin
sylweddau
Blwyddyn
allan/gwaith bwlch
Gwersylloedd
ieuenctid
Clybiau
ieuenctid
Gwyliau
ieuenctid
PRIODAS
Cynghori
Cyngor
am ysgaru
Cefnogaeth
deuluol
Cyflafareddu
Cyngor
am feichiogrwydd
Cwrs
cyn priodas
Cyngor
i lys deuluoedd
CEISWYR
LLOCHES A MEWNFUDO
Cyfeillio
Cynghori
Iechyd
meddwl
Dysgu
Saesneg
Sgiliau
sylfaenol
Parseli
bwyd
Ymweliadau
- canolfannau cadw
Cyngor
Tai
Bwlio
Integreiddio
Teithiau
dydd
POBL
HYN
Basgedi
Nadolig
Gwasanaethau
cynghori
Atal
trosedd
Grwpiau
addysg rhyngrwyd ac ati
Cymorth
garddio
Rhwydweithiau
mam-gu a thad-cu
Helpu
yn y cartref
Ciniawau
Grwpiau
cof
Cartrefi
nyrsio
Pensiynau
Cartrefi
preswyl
Cartrefi
gwarchodol
Siopa
Digwyddiadau
cymdeithasol
Grwpiau
cefnogaeth iechyd penodol
Ymweld
/ cyfeillio
RHYNGWLADOL
Cynlluniau
hyfforddiant busnes
Cynlluniau
cefnogaeth plant
Gwaith
datblygu
Ymateb
i drychinebau
Gollwng
y ddyled
Addysg
Cefnogaeth
mewn newyn
Cefnogaeth
iechyd - AIDS ac ati
Gwaith
lobio yn y Cenhedloedd Unedig/Ewrop
Gwaith
cartref plant amddifaid
Lleihau
tlodi
Gwaith
cymorth
Gwaith
ysgolion
Gwirfoddoli
Cynlluniau
dwr
Cyngor Partneriaeth
y Sector Gwirfoddol
Chwefror 2008
Cyngor ac eiriolaeth
|
Fran Targett |
Lles anifeiliaid
|
Claire Lawson |
| Celf, diwylliant a threftadaeth |
Jacquy Box |
| Plant a theuluoedd |
Catriona Williams |
| Y Gymuned |
Cerys Thomas |
| Cyfiawnder troseddol |
Chris Arnold |
| Anabledd |
Vanessa Webb |
| Addysg a hyfforddiant |
Maggie Dawson |
| Cyflogaeth |
Hayley Dunne |
| Yr Amgylchedd |
Geraint Hopkins |
| Lleiafrifoedd Ethnig |
Maria Mesa |
Rhyw |
Catherine Thomas |
| Iechyd a gofal cymdeithasol |
James Crowe |
| Tai |
John Puzey |
| Cyrff Cyfryngol |
Ian Davy |
| Cymorth rhyngwladol a chymorth brys |
Stephen Thomas |
| Crefydd |
Andrew Connell |
| Chwaraeon a hamdden |
Phillip Avery |
| Gwirfoddoli |
Bev Hampson |
| Pobl Ifanc |
Veronica Wilson |
|